
Ffôn: 07901 925671
Mae ein holl wefannau yn hawdd i bobl o bob gallu eu cyrchu. Os am eglurhad, gweler y dudalen ar wahân ar hygyrchedd y wefan hon.
A yw hanner eich ymwelwyr yn cael eu troi i ffwrdd wrth y fynedfa?
A yw 70% o’ch cwsmeriaid posibl yn methu dod o hyd i chi?
Mae’r wefan fusnes neu sefydliadol gyffredin yn colli arian am ei bod yn cau traffig allan*.
Nid yw llawer o bobl sy’n gyfrifol am gomisiynu gwefannau’n sylweddoli bod safonau swyddogol ar gyfer cyrchu a defnyddio gwefannau yn hwylus.
Mae Cyberium yn datblygu gwefannau sy’n cydymffurfio â safonau’r ‘Web Accessibility Initiative’.
Bydd y rhain yn rhoi mwy o siawns i’ch gwefan gael ei darganfod a’i defnyddio gan y nifer fwyaf o bobl.
Darganfyddwch pa mor dda yw eich gwefan, a’r Adenillion ar Fuddsoddiad ar gyfer cywiro unrhyw broblemau.
Archwilio safleoedd cyfan o £100. Galwch 01654 761590 neu e-bostiwch ni nawr!
Mae yna amcangyfrif o 8 miliwn o bobl anabl yn y DG yn unig. I lawer ohonynt mae defnyddio’r We yn dod â phosibiliadau enfawr i wella ansawdd eu bywydau, ond daw rhwystredigaethau mawr hefyd am nad yw llawer o ddylunwyr yn deall sut mae pobl anabl yn defnyddio cyfrifiaduron a’r We.
Mae hygyrchedd yn golygu:
Bydd safle sy’n gwneud y pethau hyn i gyd yn cyrraedd llawer mwy o bobl ac yn sgorio’n uwch gyda pheiriannau chwilio.
Dylai gwefannau gydymffurfio â Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd i raddau helaeth.
Rydyn ni wedi cydweithio â Sianel 4 i ddatblygu a gweithredu’i pholisi dan faniffesto Rhwydwaith Anabledd Darlledwyr. Rydyn ni wedi cynorthwyo adrannau llywodraeth i gynhyrchu gwefannau hygyrch a chynhwysol, ac wedi cymryd rhan mewn gweithdai Swyddfa Gabinet E-Lywodraeth i ddatblygu safonau.
Rydyn ni hefyd wedi darparu tudalen adnodd am ddylunio ar gyfer gwefannau hawdd eu cyrchu a’u defnyddio.
Gallwn ddarparu cymorth i unrhyw sefydliad a chwmni sy’n dymuno darparu cynnwys hawdd i’w gyrchu trwy’r rhyngrwyd. Mynnwch archwiliad cychwynnol am ddim ar gyfer eich tudalen hafan! Gofynnwch inni am ymgynghoriad cychwynnol nawr!
* yn seiliedig ar ymchwil o wefannau busnes Mentrau Bach a Chanolig (SME) Gwyddelig. Rydyn ni’n meddwl bod hyn yn gyffredinol wir. Gweler: http://www.ismewebcheck.com/research-report-page.html
Archwilio safleoedd cyfan o £100. Galwch 07901 925671 neu e-bostiwch ni nawr!
Cyberium successfully designed and developed bold clear websites for us which were well received and maintain a clear presence on the net with a total of nearly 150,000 user sessions per month, on a regular basis, over our range of five main sites.
Dave Wiseman Head of New Media, Health Promotion England
© 2012 Cyberium